Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Hydref 2016
Amser: 09.00 -
09.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3754
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones AC.
2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ac yn cytuno ar ei amcanion strategol lefel uchel ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ei flaenoriaethau a gynhaliwyd dros yr haf.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i roi blaenoriaeth i’r ymchwiliadau canlynol dros y 12-18 mis nesaf:
• Dementia;
• Gofal sylfaenol;
• Teimlo’n ynysig neu’n unig;
• Defnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig;
• Iechyd y cyhoedd a chwaraeon.
2.4 Byddai’r Pwyllgor hefyd yn cysylltu â phawb a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar ei flaenoriaethau, i roi gwybod iddynt am ei raglen waith.
2.5 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd arbenigwyr ym maes cynllunio’r gweithlu er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
3.1 Bu’r Pwyllgor yn ymweld ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd fel rhan o’i ymchwiliad i recriwtio staff meddygol.